Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 | Post-legislative scrutiny of the Higher Education (Wales) Act 2015

HEA 11

Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg

Response from: Welsh Language Commissioner

 

Diolch ichi am y cyfle i ymateb i’ch ymgynghoriad. Mae’n hymateb yn ceisio amlygu gwersi o Ddeddf 2015 a allai fod yn berthnasol i'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) arfaethedig. Hoffem bwysleisio’r pwyntiau canlynol:

 

¢  Dylai’r Bil PCETR arfaethedig gynnwys gofynion statudol ar Weinidogion Cymru a’r Comisiwn PCETR newyddi:

 

·         sicrhau lefel digonol o gefnogaeth ariannol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg;

·         benderfynu ar ddigonolrwydd cefnogaeth ariannol ar sail targedau ar gyfer cynnydd yn hytrach na’r perfformiad yn y gorffennol;

·         adolygu digonolrwydd y gefnogaeth yn rheolaidd, ar sail ymgynghori â phrif randdeiliaid.

 

¢  Dylai’r Bil PCETR arfaethedig adnabod ansawdd ac argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel un o fesurau ansawdd addysg uwch yng Nghymru, i’w fonitro gan y Comisiwn PCETR newydd fel rhan annatod o waith sicrhau ansawdd yn y sector yn gyffredinol.

 

¢  O ystyried rôl y Comisiwn PCETR arfaethedig fel corff ymbarél dros y sector addysg ôl-16 yn ei gyfanrwydd, tanlinellwn fod y dadleuon uchod yn berthnasol hefyd i addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach (AB) a dysgu seiliedig ar waith (DSW).

1.      Cyllido

 

Credwn fod Deddf 2015 yn gosod fframwaith digon addas ar gyfer cyllido darpariaeth addysg uwch yng Nghymru’n gyffredinol. Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf yn cynnwys unrhyw fesurau statudol a fyddai’n diogelu cefnogaeth ariannol i addysg cyfrwng Cymraeg. Golyga hyn fod y gefnogaeth hon yn ddarostyngedig i ddisgresiwn a phenderfyniadau strategol Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

 

Rydym yn cydnabod cefnogaeth ariannol werthfawr i rai prosiectau allweddol o ran y Gymraeg yn y sector - y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn brif yn eu mysg. Fodd bynnag, gall y penderfyniadau strategol hyn gael effaith andwyol hefyd. e.e. er 2014/15 mae premiwm Cymraeg ar gael ar gyfer israddedigion sy’n astudio’n rhan-amser yn unig - sef canran fach iawn o ddysgwyr sy’n astudio yn y Gymraeg. Hefyd, mae’r swm a glustnodir tuag at y premiwm wedi gostwng er 2014/15.

 

Y broblem fwy cyffredinol yw bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei chyllido ar sail defnydd yn y blynyddoedd blaenorol yn hytrach nag ar sail uchelgais ar gyfer cynnydd.

 

Dadleuwn felly y dylai’r Bil PCETR arfaethedig gynnwys gofynion statudol ar Weinidogion Cymru a’r Comisiwn PCETR newydd i:

 

¢  sicrhau lefel digonol o gefnogaeth ariannol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg;

 

¢  benderfynu ar ddigonolrwydd cefnogaeth ariannol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar sail targedau ar gyfer cynnydd yn hytrach na pherfformiad yn y gorffennol;

 

¢  adolygu digonolrwydd y gefnogaeth yn rheolaidd, ar sail ymgynghori â phrif randdeiliaid.

 

2.      Monitro

 

Eto, mae fframwaith Deddf 2015 yn addas mewn egwyddor i fonitro ansawdd darpariaeth addysg uwch yng Nghymru’n gyffredinol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ran o’r Ddeddf na’r rheoliadau cysylltiedig yn diogelu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn benodol, e.e.:

 

¢  O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad esbonio sut y bydd y darparwr addysgol yn hybu cyfle cyfartal. Nid oes diffiniad o gyfle cyfartal yn y Ddeddf. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i CCAUC (paragraff 4.16) yn datgan bod cyfle cyfartal yn ymwneud â chael gwared ar y rhwystrau i addysg uwch a wynebir gan grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch. Ymysg yr enghreifftiau a nodir ni chyfeirir at hybu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg trwy sicrhau bod y cyrsiau hynny ar gael a bod ymwybyddiaeth ohonynt.

 

¢  O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad hefyd esbonio sut y bydd y darparwr yn hybu addysg uwch. Eto, nid oes diffiniad o hybu addysg  uwch yn y Ddeddf. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i CCAUC (paragraff 4.19), yn rhoi enghreifftiau o hybu. Ymysg yr enghreifftiau a nodir, ni chyfeirir at hybu addysg cyfrwng Cymraeg.

 

¢  Ar sail cymal 2(4) a 7(3) y Ddeddf, gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i osod cwmpas cynlluniau ffioedd a mynediad. Nid yw Rheoliadau Addysg Uwch(Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015yn cyfeirio at addysg cyfrwng Cymraeg.

 

¢  Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar CCAUC i asesu ansawdd yr addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran sefydliad a reoleiddir. Yn ôl y diffiniad afabwysiadwyd gan CCAUC, mae ansawdd addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai sy’n derbyn yr addysg neu’n ymgymryd â’r cwrs. Ystyrir bod yr anghenion rhesymol ar gyfer addysg uwch yn cael eu diwallu os yw darparwr yn sicrhau dyfarniad o ‘Bodloni disgwyliadau’r  DU’ neu ‘Canmoliaeth’ ym mhob pedwar categori dyfarnu yn adolygiad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA). Nid yw Cod Ansawdd QAA (2018) yn cyfeirio at addysg yn y Gymraeg.

 

Yn ymarferol, mae cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a CCAUC i ddarparwyr addysg yn cyfeirio at y Gymraeg beth bynnag, e.e. mae Mesurau cenedlaethol ar gyfer perfformiad addysg uwch (2018) yn cynnwys myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Hefyd, mae CCAUC yn cyfarwyddo’r darparwyr i ddatgan sut mae’u cynlluniau ffioedd a mynediad yn cyd-fynd â’u strategaethau’r iaith Gymraeg, safonau’r Gymraeg ac ymrwymiadau strategol perthnasol eraill (e.e. cyfarwyddyd 2020/21).

 

Fodd bynnag, ni chredwn y dylai’r cyfarwyddiadau fel hyn ddibynnu ar ddisgresiwn Llywodraeth Cymru a CCAUC yn unig. Dadleuwn felly y dylai’r Bil PCETR arfaethedig adnabod ansawdd ac ‘argaeledd’ darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel un o fesurau ansawdd addysg uwch yng Nghymru, i’w fonitro gan y Comisiwn PCETR newydd fel rhan annatod o waith sicrhau ansawdd yn y sector yn gyffredinol.

 

3.      Sylwadau i gloi

 

Yn amlwg, mae’r trefniadau presennol ar gyfer cyllido a monitro ansawdd darpariaeth AB a DSW yng Nghymru’n wahanol iawn o gymharu â’r trefniadau yn y sector addysg uwch.

 

O ystyried rôl y Comisiwn PCETR newydd fel corff ymbarél dros y sector addysg ôl-16 yn ei chyfanrwydd, tanlinellwn fod y dadleuon uchod yn berthnasol hefyd i addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector AB a DSW.

 

Hyderaf y bydd y sylwadau a’r awgrymiadau uchod o ddiddordeb i chi. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â’r Pwyllgor ymhellach pan ddaw ragor o fanylion am gynigion ar gyfer y Bil PCETR newydd.

 

Yr eiddoch yn gywir,


 

Aled Roberts

Comisiynydd y Gymraeg